Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Coron Eisteddfod Môn Eisteddfod Môn 2008
Ebrill 2008
Eisteddfod Môn ar gyrraedd bro Papur Menai - dwy flynedd o baratoi dyfal bron ar ben!
Ers y cyfarfod cyffredinol cyntaf yn ôl yn 2006, pan dderbyniwyd yr her o wahodd Eisteddfod Môn 2008, mi fu 'na lawer o brysurdeb yn Llandegfan a'r ardal.

Ffurfiwyd nifer o is-bwyllgorau a bu pob un wrthi'n ddyfal naill ai'n llunio Rhestr Testunau i'r cystadleuwyr, yn codi arian neu'n trefnu digwyddiadau ac ati. Rhwng pawb, bu cryn drigain o bobl yn ymwneud â threfnu'r digwyddiad yn barod. Go dda ynte?

Bu'r Cyhoeddi - ar lawnt werdd tref Biwmares fis Mai y llynedd - yn llwyddiant mawr. Cydweithiodd Gorsedd Môn yn gampus i ddwyn lliw a threfnu i'r achlysur. Y diwrnod hwnnw, dechreuwyd gwerthu'r Rhestri Testunau, a bellach dosbarthwyd cannoedd ohonynt i bob cwr o Gymru.

Rwan 'ta, lle mae pethau arni hi erbyn hyn tybed?

Codwyd yn barod y rhan fwyaf o'r £35 mil sy'n angenrheidiol. Sioc i chi? Wel, mae'n wir. Diolch o galon i chi bawb a'n noddodd ni ym mhob ffordd ac a'n cynorthwyodd ni i gael gwobrau da i'r enillwyr.

Rydym yn ddyledus iawn i'r nifer sylweddol o ffrindiau da a Llywyddion Anrhydeddus sydd eisoes wedi anfon rhoddion hael. Ond eto, os oes 'na unrhyw un ohonoch chi - neu ffrindiau y gwyddoch amdanynt - hoffai anfon rhodd fechan i'r Eisteddfod, byddwn yn falch iawn o'i derbyn. Diolch lawer.

Yr Å´yl ei Hun - Dyddiadau Pwysig

Yr Ŵyl Ddrama - Yr wythnos 21 - 25 Ebrill yn Neuadd y Plwyf, Llandegfan. Gall fod yn unrhyw beth a un noson i dair fel rheol. Enwau rhai cwmnïau i mewn eisoes.

Yr Arddangosfa Celf a Chrefft - Yn Neuadd y Plwyf, Llandegfan eto. Bydd yr Agoriad Swyddogol ddydd Mercher, 30 Ebrill a chyfle wedyn i ymweld â'r Arddangosfa 03 - 8 o'r gloch ddydd Iau a dydd Gwener, 1 a 2 Mai.

Yr Eisteddfod - Yn Ysgol Gyfun David Hughes, Y Borth nos Wener 9 Mai a thrwy'r dydd Sadwrn, 10 Mai, gyda'r Å´yl Offerynnol hefyd ar y Sadwrn.

Seremonïau: Y Coroni ar y nos Wener. Y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio yn ystod dydd Sadwm (gyda'r Babell Lên i ddilyn seremoni'r Cadeirio).

Cymanfa Ganu - Nos Sul, 11 Mai yng Nghapel Barachia, Llandegfan, (yr Hen Bentref) am 8 o'r gloch. Yr arweinydd fydd y Dr Goronwy Wynne, Licswm, gydag un ohonon ni, sef Evelyn Roberts, wrth yr organ. Bydd rhaglenni ar werth o ganol Ebrill ymlaen.

Fel y gwelwch chi, mae gwledd yn ein haros ni. Cadwch eich llygaid ar agor am fwy o fanylion yn y Wasg ac ar bosteri o hyn i ddechrau Mai - ac edrychwn ymlaen at gael eich cwmni a'ch cefnogaeth dros yr ŵyl!

  • Eisteddfod Môn
  • Hanes Eisteddfod Môn

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý