Y llynedd cymerodd Aled ran yng Nghystadleuaeth Gordon Ramsey Scholar Awards am y tro cyntaf. Eleni mae wedi profi llwyddiant yn y gystadleuaeth hon. Roedd 200 o ymgeiswyr yn y gystadleuaeth i'r rownd gyn derfynol a chynhaliwyd y rownd derfynol ar ddydd Sadwrn, 25 Tachwedd fel rhan o Good Food Show y Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn y NEC yn Birmingham lle'r enillodd Aled.
Mae'n derbyn gwobr a VW Polo newydd a £2000, ac wythnos yn un o westai Gordon Ramsey yn Efrog Newydd. Llongyfarchiadau iddo am gamp gwbl arbennig.
Yn gyn ddisgybl o Ysgol Gynradd Llandegfan ac Ysgol David Hughes, fe aeth Aled i Goleg Menai i hyfforddi fel cogydd. Cafodd wobr 'Myfyriwr y Flwyddyn' ac yna aeth ar brofiad gwaith i Westy'r 'Bull' ym Miwmares. Roedd yn cael profiad da yn y gwesty a'i ryddhau am ddiwrnod yr wythnos i gwblhau ei gwrs.
Ar ôl cyfnod yn y 'Bull' aeth i weithio gyda'r cogydd enwog Chris Chown ym Mhlas Bodegroes yn Efailnewydd, ger Pwllheli.
Er mwyn ehangu ei orwelion trefnwyd iddo weithio ym mwyty enwog Bathers Pavilion yn Sydney, Awstralia. Manteisiodd ar y cyfle o fod ym mhen draw'r byd i gael seibiant a bu'n teithio'n Seland Newydd am gyfnod.
Ar ôl dod yn ôl i'r wlad hon bu'n gweithio yn 'Ynyshir Hall', tu allan i Fachynlleth ac ar hyn o bryd mae'n cael profiad gyda'r cogydd Daniel Clifford ym mwyty adnabyddus Midsummer House, Caergrawnt.
Mae Aled wedi rhoi ei fryd ar ddod yn ôl i Gymru ac yn y flwyddyn newydd bydd yn gweithio yng Ngwesty Tŷ Gwyn, Abersoch sydd ar hyn o bryd yn caei ei adnewyddu. Rhyw ddydd fe hoffai agor ei fwyty ei hun yng Nghymru ac yn defnyddio cynnyrch o Gymru. Teimla Aled fod Cymry Cymraeg wrth eu boddau yn cael rhywun sy'n siarad Cymraeg i weini arnynt pan maent yn mwynhau pryd o fwyd.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |