Er gwaethaf niferoedd y cyhoeddiadau sy'n crybwyll adar Môn, ni chafwyd llyfr cynhwysfawr sy'n sôn am statws hanesyddol a chyfredol adar y sir. Cafodd y llyfr hwn ei lunio i lenwi bwlch amlwg yn adareg Cymru. Nod y gyfrol hon yw:
Nodi unrhyw newidiadau yn statws adar; a thrwy hynny gynhyrchu cofnod archifol er mwyn ei gwneud hi'n haws cymharu yn y dyfodol.Yr awduron
Mae Peter Hope Jones MPhil., MLib., MIBiol., ALA, bellach wedi ymddeol o'i waith fel ecolegydd ac adarwr proffesiynol. Yn y Rhyl y cafodd ei addysg gynnar, ac yna Prifysgol Cymru ym Mangor ac Aberystwyth. Bu'n gweithio fel ecolegydd ym Môn, Meirionnydd a Môr y Gogledd (NCC) ac yn Ynysoedd Erch (RSPB). Treuliodd ei flynyddoedd olaf cyn ymddeol gydag NCC/CCGC ym Mangor, a bu'n byw ym Môn er 1983. Ysgrifennodd lawer o bapurau gwyddonol, dau lyfr am Ynys Enlli, Birds of Caernarvonshire (gyda Peter Dare), Birds of Denbigshire (gyda John Lawton Roberts) a Birds of Merioneth.
Mae Paul Whalley DSc., CBiol., FIBiol., MSc., BSc., F.R.E.S. yn entomolegydd proffesiynol a bu ganddo ddiddordeb mewn adar gydol ei oes. Teithiodd i bedwar ban byd gyda'i waith a bu'n gwylio adar ar bob cyfandir bron. Bu yn yr ysgol yn Llandudno, yna ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, a threuliodd chwe blynedd ym Môn. Yn ogystal â phapurau entomolegol, bu'n golygu Birds of Anglesey and Caernarvonshire (1954). Ar ôl treulio tair blynedd yn Nwyrain Affrica, bu'n gweithio am bron i ddeng mlynedd ar hugain yn y Natural History Museum yn Llundain, cyn dychwelyd i Fôn i ymddeol.
Adar Môn gan Peter Hope Jones a Paul Whalley. Cyhoeddwyd gan Menter Môn. £24.99 - 600 tud, dwyieithog gyda'r fersiwn Cymraeg gan Cen Owen.