Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Sioe Babanod Ysgol Penparc Ysgol Penparc
Chwefror 2004
Bu plant Ysgol Penparc wrthi'n brysur yn ystod yr wythnosau'n arwain i fyny i'r Nadolig yn paratoi dwy sioe.

"Cardiau Nadolig" oedd sioe y Babanod - pob carden a'i llun a'i hanesyn ei hun am y cyfnod. Roedd y plant i gyd wrthi'n brysur yn postio'u cardiau ac yn rhoi llond sach o waith i Jac y Postman - y prif gymeriad.

"Hen Ddyn Doeth y Lleuad" oedd sioe yr Adran Iau. Roedd yr hen ddyn yn methu deall beth oedd yr holl halibalŵ oedd ar y ddaear ar yr adeg yma, ac y mae'n penderfynu bod yn rhaid iddo ddod lawr ar seren wib i weld drosto ef ei hun. Yn ystod y perfformiad gwelwyd bod sawl seren ddisglair yn perfformio ar y llwyfan.

Gwnaeth y plant ddau berfformiad, un brynhawn Mawrth ac un nos Fercher, ac roedd y Neuadd yn llawn i'r ddau berfformiad.

Bu'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn brysur yn gwerthu tocynnau raffi a chasglwyd swm sylweddol o arian i gronfa'r ysgol.

Rhaid diolch i'r rhieni hynny fu'n ddiwyd yn paratoi'r holl wisgoedd, ond rhaid rhoi diolch yn arbennig i Mrs Enfys Williams a Mrs Sally Phillips.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý