Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Rasputin y Band Roc Rasputin y Band Roc
Glywsoch chwi sôn am Rasputin? Wel do, siwr!
Mynach egsentrig oedd y gwreiddiol, yn perthyn i urdd eglwys uniongred Rwsia a gafodd ddylanwad syfrdanol ar deulu'r Tsar, yn enwedig y Tsarina Alecsandria. Bu farw mewn amgylchiadau dramatig. Fe'i gwenwynwyd â dôs oedd ddigon i ladd chwech o ddynion, fe'i saethwyd dair o weithiau ac fe'i taflwyd i mewn i lyn o iâ. Ac eto ceisiodd ddianc.

Ond heddiw mae gennym fand roc a fabwysiadodd yr enw ond sydd â chefndir a gweledigaeth tipyn yn wahanol. Mae pump o'r bechgyn yn lleol a phedwar o ardal Y Gambo.
* Dafydd Driver, Pentre, Ciliau Aeron (Ysgol Aberaeron, Blwyddyn 11), sy'n chwarae gitâr flaen ac yn canu cefndir. Prynodd ei offeryn, sef Gibson Les Paul yn Boston, UDA. Arwyr: Jimi Henrix a John Frusciante.
* Rhys Evans, Hafod lwan, Caerwedros (Ysgol Dyffryn Teifi, Blwyddyn 13. Chwarae gitâr fâs (Tanglewood). Arwyr: Red HotChili Peppers a Lostprophets.
* Deiniol Glyn, Brynawelon, PostBach (Ysgol Dyffryn Teifi, Blwyddyn 13). Chwarae gitâr rhythm (Strat ffêc - addaswyd) Arwyr: Zack de la Rocha a Slash.
* Dylan Jones, Dewi Villa, Ffos-y-Ffin (Ysgol Aberaeron, Blwyddyn 11). Drymiwr (Drum World). Arwr: Keith Moon
* lfan Rees, Brithdir, Penmorfa (Ysgol Dyffryn Teifi, Blwyddyn 13). Prif leisydd a gitâr rhythm a rannol blaen (Strat ffêc - addaswyd). Arwyr: Incubus a Super Furry Animals.

Roedd y pump yn derbyn hyfforddiant unigol oddi wrth Mike Eades a daliodd eu cynnydd a'u gallu cerddorol ei sylw. Awgrymodd iddynt ddod at ei gilydd. Tan yn ddiweddar bu'n eu hyfforddi yn neuaddau Caerwedros a Llwyncelyn unwaith bob pythefnos neu yn amlach ar gyfer gig. Mae'r pump yn gerddorol a'u hagwedd yn aeddfed a chyfrifol. Yn eu cwmni teimlir egni'r ifanc, mwynhad a hwyl yn eu chwarae a chreadigrwydd ffres. Maent yn joio mas draw ac mae'r sialens yn wrthgyferbyniad teilwng i ofynion eu cwrs addysg.

"Mwy na thebyg bydd rhai ohonom yn mynd i'r coleg blwyddyn nesaf. Ond rydym am aros gyda'n gilydd fel grŵp," meddai un ohonynt. Daw aelodau a syniadau o 'riffs' cerddorol. Tŷf yn waith creadigol grŵp. Yna daw'r geiriau.

Maent yn cyfansoddi y geiriau ei hunain ac mae caneuon gwreiddiol yn cynnwys 'Yr Estron', 'Sharabang', 'Er Cof', 'Dannedd Miniog', 'Gwên' a 'Gwenno Guevara Freedom Fighter'.

Ymddangosodd Rasputin yn eu gig cyntaf yn Rali Clwb Ffermwyr Ifanc ym Maenglowon Fawr i gynulleidfa o 1,500. Yn dilyn eu llwyddiant maent wedi ymddangos mewn nifer o gigs gan gynnwys Gŵyl Pysgod Aberaeron, Gwesty'r Emlyn gyda Geraint Lovgreen a'r Enw Da, Gwesty'r Plu fel rhan o 'Gigwam', a Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ar yr un llwyfan â Dafydd lwan ac Elin Fflur. Yn ddiweddar, roeddent yn un o bump grŵp wnaeth chwarae yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin mewn gig a drefnwyd gan Gymdeithas yr laith i brotestio yn erbyn 'Radio Carmarthenshire' a'u polisi uniaith Saesneg.

Dymuna'r bechgyn gydnabod cymorth llawer o bobl; yn bennaf i'w hyfforddwr Mike Eades am ei ddysg, ei gyngor a'i amynedd, i Catrin Owens am ei hyfforddiant ym maes mynegiant cerddorol, i'w cefnogwyr teyrngar yn enwedig Owen, Rhys B, Michael, Rhys D a Clai, ac i'w teuluoedd am eu cefnogaeth ac am fod yn 'roadies' di-dâl.

  • Ewch i ddarllen adolygaidau o gigs y canolbarth, mae cyfle i chi gael £30 am ysgrifennu adolygiadau eich hunan - clciwch yma am fwy o fanylion.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý