Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Norma ac Idris Shanti Sewa Griva
Chwefror 2004
Mewn gwasanaeth arbennig daeth aelodau eglwysi Capel-y-Wig, Pisgah a Phantycrugiau at eu gilydd i groesawu Idris a Norma Rees, Ffynnonlas.

Wedi canu cynulleidfaol, darlleniadau a gweddi croesawyd y gwahoddedigion ymlaen i gyflwyno hanes eu hymweliad â'r India a Nepal.

Norma Rees fu'n cyflwyno manylion am eu teithiau gydag Idris ei gŵr, yn dangos safleoedd yr ardaloedd, trefydd, dinasoedd, parciau natur cenedlaethol ac afonydd ar fap mawr. Llwyddodd Norma i gyfleu naws, lliw, diwylliant, bwydydd, crefydd a bywyd gwyllt y gwledydd trwy ei brwdfrydedd, ei hiaith afaelgar a' i hiwmor. Medrodd gyflwyno am naws cyfoeth a thlodi, palasau a chyflwr pobloedd y stryd, mynyddoedd a dyffrynnoedd a chredoau ac ofergoeliaeth dieithr sy'n dal i gael blaenoriaeth dros foddion, meddyginiaeth, cyffuriau a gwyddoniaeth. Mae bywyd cyfoes yr India yn llawn paradocs.

Gwelsant y Joy Mahal, angladdau yn llosgi cyrff ar lan y Ganges, teigrod, nadredd a chopaon gwenwisg yr Himalayas. Yr oedd yn gyflwyniad diddorol iawn ac ni ellir gwneud cyfiawnhad o'r wledd trwy adroddiad ar bapur. Er y tlodi ofnadwy, yr afiechydon a'r boblogaeth ddirifedi, erys urddas pobl yr India a phobl Nepal yn uchel yn eu cof.

Dôi Norma ac Idris Rees o'r India a Nepal eisiau helpu pawb a phob achos. Nid yw hynny'n bosibl. Ond penderfynodd y ddau i gefnogi un ganolfan arbennig. Trosglwyddwyd y casgliad o'r cwrdd o £117 i'w ychwanegu at £125 a gasglwyd gan Norma ac Idris Rees trwy werthu cardiau Nadolig a chrefftwaith o Nepal ac India. Byddant yn cyflwyno'r swm terfynol i ganolfan Shanti Sewa Griva yn Nepal. Canolfan gymorth i rai yn dioddef o'r gwahanglwyf ydoedd ond bellach mae yna ysgol, clinig a hyd yn oed fferm gyfagos i dyfu llysiau a ffrwythau gyda' r bwriad o ' i gwneud yn hunan-gynhaliol.

Danfonwyd arian o'r Almaen i ddechrau'r ymgyrch. Nid oes arian yn dod o'r llywodraeth felly mae'r cyfraniadau allanol yn hollbwysig i gynnal y fenter. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth - wella byd rhai llai ffodus na nyni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý