Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Llun o geiliogod paun Anrheg anarferol i Mam
Mawrth 2006
Mae ceiliog paun go anarferol yn byw yn Llangranog - nid yn unig y mae'n cael gorwedd ar y soffa, ond mae hefyd yn deall Cymraeg!

"Roedd Doreen Jones, Frongoch, Llangranog, wedi dotio ar y peunod ar lawntiau Castell Caerdydd. Ac ymhen wythnos neu ddwy gwelodd Haydn, ei mab, eitem ddiddorol ar raglen 'Hel Straeon' ar S4C. Roedd gan y ffermwr arbennig hwnnw ormod o geiliogod paun.

'Presant ardderchog i Mam!' meddyliodd Haydn. Benthycwyd caets a'i gludo i Frongoch. Fe'i bedyddiwyd yn 'Mach' oherwydd iddo ddod o'r fferm oedd yn ardal Machynlleth i gyfeiriad Llanbrynmair.

Roedd Mach with ei fodd ymhlith gerddi helaeth Frongoch. Clwydai yn y coed cyfagos yn ystod y dydd a dihangodd unwaith i Wersyll yr Urdd. Felly rhoddwyd ystafell o fewn yr hen stablau iddo yn gartref parhaol.

A chymeriad a hanner yw Mach! Erbvn diwedd Awst bydd yn colli ei gwils mwya' a'r copa pluog ar ei ben. Ond wedyn erbyn Mehefin bydd yn ei ogoniant a'i gynffon ysblennydd - fel dywed englyn Isfoel:

Canwr claer, seceina'r clos - yn agor
Hugan gwerth ei dangos,
Delwau yr haul, dail y rhos, A llun cywrain llwyn ceirios.

Bydd dyn y glo yn casglu'r cwils lliwgar i addurno'i fachau pysgota.

Cafodd Mach gymar am gyfnod - iâr secsi iawn o'r enw Gwcs and ni fu'r briodas yn llwyddiannus a bu farw'r cywion o fân glefydau.

Erbyn hyn mae Mach yn 22 mlwydd oed ac yn cael ei sbwylio yn beunwr di-briod. Caiff fwyd parot, letys, blodfresych a brocoli, heb sôn am sbrowts a llysiau Tom yn yr ardd.

'Mae'r cythraul bach yn codi popeth o'r ardd. Bydd yn dilyn Doreen ac yn codi'r blodau fel mae hi yn eu plannu. Ac mae blodau a blagur cina bêns yn flasus iawn. I'w uchder ymestyn - ni dyf yr un ffeien,' medde Tom.

Yn wir, mae'n un o'r teulu. Pe baech yn ymweld â Frongoch nid golygfa anghyffredin fyddai gweld Mach yn 'i lordio hi o flaen y Rayburn. A druan â Doreen, rhaid iddi eistedd ar gadair galed iddo fe McNabs - Mach - gael 'mystyn ma's ar y soffa. A phan gaiff siawns fe neidia Mach lan y stâr a mewn i ystafell gysgu Tom a Doreen. Yno fydd e mewn tymer ddrwg iawn yn pigo gwydr y bwrdd gwisgo gan ymosod yn ffyrnig hyd at waed ar lun ei hun, neu lun yn ei dyb ef - wrthwynebydd dieithr. Bydd yn gwasgaru holl drugareddau'r bwrdd i'r llawr yn ei dantrwm.

'Mae e'n lico cwmni,' medde Doreen eto. 'Mae'n ymlacio i sŵn y teledu a'r fideo. A wir i chwi mae e'n deall Cwmrag. Neith e ddim sylw o'r Saesneg. We nhw siŵr o fod wedi dysgu Cwmraeg iddo lan ffor 'na yn Llanbrynmair. A pheth arall diddorol mae e fel se fe'n ymwybodol fy mod i'n ddall. Rwy'n siŵr fod e'n gwbod.'

Nid yw yn crwydro cymaint nawr. Unwaith daethpwyd o hyd iddo ar hen plas Rhydclomennod. Chwilio am 'ledi' siŵr o fod.

Dywed Haydn, 'Codai fel hofrennydd a dôi lawr, fel gleider wedi ei demptio gan fwyd. Rwy'n falch fy mod wedi ei brynu i Mam. Mae gwmni mowr - a ffefryn y teulu. Gofynnais i'r ceidwaid yng Nghastell Caerdydd - faint yw oes peunod? Nid oedd neb yn gwybod. Ac os nad yw e'n dragwyddol mi fydd yr hwyl a'r atgofion gyda ni am byth.'

Os oes gennych hanesyn am anifail neu aderyn arbennig - danfonwch air."


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý