Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Organ bib Capel Annibynnol y Towyn, Cei Newydd (1909-2009). Yn Gant Oed!
Gorffennaf 2009
Hanes dathliad canmlwyddiant yr Organ Fawr yng Nghapel Towyn, Cei Newydd.

Bu yn bnawn o lawen chwedl yng Nghapel Towyn, Cei Newydd ddydd Sul l4eg Mehefin 2009 - diwrnod dathlu canmlwyddiant yr Organ Fawr fel cyfrwng cyfoethogi'r gân a'r addoliad, gan gyplysu un oedd yn allweddol i'r dathlu, sef y diweddar Ddoctor Caradog Roberts, Rhosllannerchrugog, a gynllniodd yr organ.

Daeth tyrfa luosog iawn ynghyd, a braf oedd gweld llu o aelodau a oedd wedi eu codi i fyny yng Nghapel Towyn wedi teithio milltiroedd lawer i gadw oed yn yr oedfa arbennig a hanesyddol hon.

Darllenwyd o'r ysgrythur gan yr Athro Tecwyn Jones i ddechrau, ac yna cafwyd gweddi fer gan Ithela Evans. Yn dilyn hyn cafwyd gair o groeso a hanes yr organ gan Ithela Evans, Ysgrifennydd y Capel.

Clywyd canu gwefreiddiol gan y soprano Mari Ffion Williams a'r tenor Gareth Huw John,ac roedd aelodau'r gynulleidfa wedi eu hudo gan eu perfformiadau.

Mae'r ddau wedi cyrraedd yr uchelfannau ym myd cerddoriaeth. Braf oedd cael eu cwmni yn yr oedfa.

Bum yn ddigon ffodus i gael cwmni a gwasanaeth y Deon Gwlad, Chris Bolton fel ein horganydd gwadd. Cawsom ddatganiad a oedd yn dangos cyfoeth yr organ trwy gyfrwng cerddoriaeth o gyfnod Handel hyd at y presennol, gydag aelodau'r gynulleidfa wrth eu bodd.

Gwnaeth Jon Meirion Jones, Capel y Wig, gyfarch yr achlysur gyda thribannau a chyflwynodd argraffiad arbennig ohonynt wedi'u fframio i Gapel Towyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý