Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Injan Ddyrnu Fowler Dannedd a Stêm
Mehefin2008
Hanes cariad Dudley Jones am ddyddiau stêm a'u peirianneg.

Mae Dudley Jones (gynt o Ddolgou, Blaencelyn) wedi ymddeol bellach fel Llawfeddyg deintyddol, and ni fu ei ddyddiau yn segur. Ac yntau yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Aberteifi, dangosodd ddiddordeb heintus mewn peirianneg. Roedd injan ddyrnu enwog Tom Rees, Pwllywhil - 'Ehedydd y Bore' ('Morning Lark') yn atyniad o ryfeddod iddo. Arhosai Dudley mewn Ilety yn Aberteifi gyferbyn a'r 'Gof-golofn' a chartref Mr Davies, Brynawel. Roedd ei injan stem yntau wedi pallu a bu Dudley yn gyfrwng i Tom Rees werthu yr `Ehedydd' i Mr Davies.

Ond aeth Dudley ymlaen i ysbyty enwog Guy's yn Llundain i astudio deintyddiaeth am bron i bum mlynedd. Arhosodd ymlaen yno am chwe mis cyn ymuno a chlinigau yn Bedford, Malvern ac yna yn Abertawe, Ile bu am gyfnod hir yn cynnal ei syrjyri ei hun.

Parhaodd y diddordeb mewn peirianneg, gwaith metal a gwaith coed. Ac yn ei oriau hamdden adeiladodd geginau i deuluoedd ei feibion a chypyrddau i'w glinic ei hun. Peiriannydd dannedd a pheiriannydd creadigol trwy gyfrwng gwahanol.

Bu ei fab, Simon, yn brif beiriannydd ar y môr cyn Ilyncu'r angor a gweithio fel arolygwr morwrol yn Angola, Llundain ac Ajerbaijan. Mae ei fab arall yn gyfreithiwr yn Malmesbury, Swydd Wiltshire.

Cofia Dudley am weld 'Ehedydd y Bore' o eiddo Tomos Griffiths tu allan i Ben¬Ion Las (Gwalior heddiw) ger Capel-y-Wig. A bu'r diddordeb ganddo trwy'i oes, nes iddo greu model (Fowler) o injan ddyrnu, er mai Clayton and Shuttleworth oedd injan Tom Rees.

Faint o ddarllenwyr Y Gambo sy'n cofio'r injan, y peiriant dyrnu, yr `elevator' a'r Llangadog - cert shindris a phob peth angenrheidiol a dianghenraid ar gyfer ffordd fawr ac ydlan.

Golygfa gyffredin fyddai gweld a chlywed yr anghenfil hir yn symud ar hyd tyrpeg a lonydd y broydd. Arhosai Tom Rees am ddiwrnodau mewn fferm arbennig nes i'r helmi ddiflannu, e.e. ym Mlaenbedw, Llanarth - am ddau noson.

Cyn dyddiau ffôn, y whît enwog fyddai cyfrwng gwybodaeth. Tri chaniad, dri chwarter awr cyn dyrnu, dau ganiad hanner awr cyn dyrnu ac un caniad chwarter cyn dechrau. Clywid galwad y whît o bellter pum milltir, dyweder Blaencelyn o Gei Newydd, â'r gwynt o'r cyfeiriad iawn.

Rhaid oedd codi am hanner awr wedi pedwar i lanhau a rhacanno'r bocs ac i gynnau'r tân. Ac wedi i'r bys gyrraedd y coch ar y'manometer' byddai'r gwasgedd stêm yn barod i symud ymlaen. Glo Trimsaran, a digon o ddŵr oedd bwydlen y dydd a phawb a'i swydd. Rhai yn datgymalu crefftwaith yr helmi, dal llygod Ffrengig (wedi clymu'r trowseri), taflu'r sgubau I ben y peiriant, torri'r rhwymau cyn ei taflu i mewn i'r 'feeder', casglu'r grawn a llenwi'r sachau, cario i'r storws, a rhacannu'r ys. A hyn heb sôn am gario dŵr o'r Ilyn os byddai rhy bell i'r biben osod. Ac roedd mynydd o wellt i'w helmi.

Roedd `Ehedydd y Bore' wedi dyrnu yn Nolgou amryw o weithiau. Nid rhyfedd iddi wneud sut argraff ar Dudley Jones. Mae newydd ddathlu ei ben blwydd yn 80 oed. Ac mae'r diddordeb yn parhau, a'r atgofion yn felys am ddyddiau ieuenctid a dyddiau stêm a'u peirianneg.

Prynodd Dudley hen dractor Massey Ferguson (1962) a'i hadfer i'w gogoniant. Mae newydd ei gwerthu yn ei lifrai coch sgleiniog i ŵr ym Malmesbury.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý