Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Llun o Hettie a Fanw, Caer y-glyn, yn y cae llafur yn casglu sgubau yn y cae Atgofion ar y ffordd i Ysgol Penmorfa
Mawrth 2010
Hettie Williams yn hel atgofion am ei thaith i'r ysgol pan yn blentyn.

Ganwyd Mam, Hettie Williams, Davies gynt, ar fferm Castell Nadolig yn 1925, ac fel y gwyr pobl yr ardal roedd yn amgylchiad trist iawn pan fu farw ei mam ar ei genedigaeth gan adael chwech o blant.

Collodd ei thad pan oedd yn chwech oed, a magwyd y teulu bach yn bennaf gan Anti Sara, chwaer ei thad o Alltycordde.

Aeth y plant i Ysgol Penmorfa.

Wrth ddarllen hanes cau Ysgol Penmorfa yn Y Gambo iddi, a hithau'n ddall ers blynyddoedd, diddorol oedd gwrando arni'n son am ei thaith i'r ysgol yn y dyddiau hynny:

"...lan i benlon Castell, croesi'r ffordd fawr, croesi dau gae a dod mas yn Pwllyrhwyaid, lle roedd Ceri, Eirlys, Wyn a Marina.

Yna lawr heibio Talywerydd, troi i'r dde, heibio Tan-y-bwlch, heibio lon Trefon; lawr y rhiw heibio ty Pengarreg. Pistyll ar waelod y rhiw a chael dwr yno.

Yna, lawr heibio Hirnant lle roedd Rosie ac Alfred West yn byw, mynd heibio Mountain Hall lle roedd John a Jane yn byw; heibio Trepibe, galw am Lal, Dai, Eirlys a Rosa Vincent; heibio Landre, lawr i benlon Treddafydd, troi i'r chwith - mlan heibio i'r llyn (sglefrio arno weithiau), troi i'r dde a lawr i Cefngranod, trwy un cae a hyd llwybr cyhoeddus a thrwy gae arall lawr ar ein pennau i iard yr ysgol.

Doedd dim tar ar iard y bois, and roedd iard y merched wedi ei tharro.

Roedd Mishtir, sef Mr Ifor Isaac, yn byw mewn tÅ· ar dir yr ysgol.

Yr athrawon oedd Miss Neli Lewis, Llain a Miss L. A. Evans, Blaenwaun.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý