Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
llun o  ffermwyr ifanc Caerwedros Caerwedros ar y Brig
Rhagfyr 2007
Mae C.Ff.I. Caerwedros wedi cael tymor yn llawn bwrlwm ac yn llawn llwyddiant unwaith eto.

Fe aethom i orsaf yr heddlu yn Aberystwyth ar y cyntaf o Hydref. Fe gafwyd taith hwylus o amgylch yr adeilad, gwelsom nifer o bethau diddorol gan gynnwys moduron yr heddlu, y camerâu CCTV, y celloedd a thrin a thrafod y peryglon o gam-drin cyffuriau. Fe wnaeth pawb fwynhau ac fe alwon yn McDonalds am swper ar y ffordd adref.

Cynhaliwyd cwrdd diolchgarwch ar y 15fed o Hydref yng Nghapel y Bryn. Hoffwn ddiolch i'r Parchedig Pinion Jones am ymuno â ni yn y gwasanaeth; cawsom bregeth diddorol iawn. Diolch hefyd i'r aelodau a wnaeth gymryd rhan ynddo.

Cafodd y gystadleuaeth siarad cyhoeddus Cymraeg ei gynnal yn Felinfach ar y 9fed a'r l0fed o Hydref. Yn y gystadleuaeth 14 oed neu iau, fe ddaeth Caerwedros C, sef cadeirydd Rhiannon a darllenwyr Sarah a Heulwen, yn ail fel tîm a daeth Caerwedros B, sef cadeirydd Llŷr a darllenwyr Ceirian a Meilir, yn drydydd fel tîm. Hefyd yn cystadlu roedd Caerwedros A, cadeirydd Emma a darllenwyr Caryl a Sioned.

Yn y gystadleuaeth 16 oed neu iau, fe ddaeth Elliw yn gydradd trydydd fel siaradwr, fe ddaeth Caerwedros B, sef cadeirydd Lona, siaradwr Elliw a diolchydd Sarah, yn bedwerydd fel tîm. Hefyd yn cystadlu roedd Caerwedros A, cadeirydd Sam, siaradwr Morys a diolchydd Bleddyn. Yn cystadlu yn adran 26 oed neu iau oedd cadeirydd Trystan, cynigydd Teleri a gwrthwynebydd Lowri. Ar ddiwedd y gystadleuaeth fe ddaeth C.Ff.I. Caerwedros yn bedwerydd. Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth gystadlu.

Yng nghystadleuaeth chwaraeon dan do y sir fe ddaeth y clwb yn gydradd chweched allan o 20 clwb. Llongyfarchiadau i'r aelodau a wnaeth gymryd rhan ynddo, yn enwedig i Dafydd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth tennis bwrdd. Da iawn.

Cafodd clwb Caerwedros lwyddiant mawr yn Eisteddfod y Sir yn ddiweddar. Fe enillwyd yr eisteddfod am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gyda 84 o farciau! Yn ennill y wobr gyntaf oedd y parti cerdd dant, Teleri a Lowri yn y gystadleuaeth llefaru, Llun o Trystan a LowriCaryl yn yr unawd cerdd dant, yr ensemble lleisiol, Lowri a Trystan yn y deuawd doniol a Lowri yn y stori fer. Hefyd cawsom yr ail wobr gyda'r meimio i gerddoriaeth, Lona yn yr unawd 16 neu iau a'r unawd cerdd dant, y parti llefaru, Carol am gyfansoddi darn o gerddoriaeth a Lowri yng nghystadleuaeth y gadair.

Enillwyd y drydydd safle gyda'r ymgom, Cerian yn yr unawd 13 neu iau, llyfr y trysorydd, Sarah am ysgrifennu ymsom, Katie Ann yn y gelf a rhaglen clwb y flwyddyn.

Fe enillodd y clwb darian y diweddar W. G. Hughes am gipio'r wobr gyntaf. Fe aeth yr ensemble lleisiol a'r deuawd doniol ymlaen i Eisteddfod Cymru yng Nghorwen ac fe ddaeth yr ensemble yn ail a Lowri a Trystan yn y deuawd doniol yn drydydd.

Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth gystadlu a diolch yn fawr i bawb a fu'n ein dysgu ac yn ein cynorthwyo.

Hefyd llongyfarchiadau i Lea a enillodd barnu ŵyn tew yn y sir dan 26, a aeth ymlaen i gystadlu yng nghystadleuaeth barnu ŵyn tew yn y Ffair Aeaf lle ddaeth yn 4ydd.

Byddwch yn barod am gnoc ar y drws ar y 17eg a'r 18fed o Rhagfyr oherwydd bydd y clwb yn dod o amgylch yn canu carolau.

  • Canlyniadau a lluniau o Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifainc 2007 yng Nghorwen.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý