Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
T Llew Jones Diwrnod T Llew
Tachwedd 2009
Hanes gweithgareddau i ddathlu buwud a gwaith yr awdur a'r bardd, T Llew Jones

Mae'r freuddwyd a' i hamcanion i sefydlu `Diwrnod T. Llew' wedi'i deor a throi yn realaeth.

Dan lywyddiaeth Owenna Davies, cefnogaeth pwyllgor brwd a nawdd adran diwylliant Cyngor Sir Ceredigion - y bwriad yw cynnal gweithgareddau amrywiol yn flynyddol oddeutu dyddiad pen¬blwydd T. Llew.

Gobeithir y bydd Cymru gyfan yn cymryd rhan ac y sefydlir y digwyddiadau yn Å´yl Genedlaethol.

Mae'r 'gronfa' arbennig eisoes wedi ei sefydlu - a bydd yn ffynhonnell ysgoloriaethau i noddi ac i gefnogi talentau ieuainc disglair sydd yn dangos addewid i ysgrifennu'n greadigol trwy gyfrwng rhyddiaith neu farddoniaeth.

Cynhaliwyd amryw o weithgareddau i sefydlu'r Å´yl.

Ar nos Wener y 9fed o Hydref, traddodwyd darlith gan Jon Meirion yn Llyfrgell Aberteifi ar y testun 'Bywyd a Gwaith T. Llew Jones'.

Noddwyd y noson gan Lyfrgell Ceredigion ac yn bresennol oedd Llyfrgellydd y Sir, William Howells, a threfnydd y noson, Gareth Evans, Llyfrgellydd y Dref.

Yr artistiaid oedd plant adrannau y babanod ac iau Ysgol Gynradd Aberteifi - gyda'u prifathro, Robert Jenkins, ac athrawon.

Adroddwyd `Y Bws Bach' a chyflwyniad cerddorol gan gor yr ysgol o 'Gwm Alltcafan'.

Yn ychwanegol cafwyd datganiad o gerdd dant gan Alun Tegryn Davies i gyfeiliant y delynores Marged Elen Rees, Brynberian.

Cyflwynwyd hir-a-¬thoddeidiau, a thoddeidiau o awdl fuddugol T. Llew - `Caerllion ar Wysg' (Glyn Ebwy, 1958):

Hefyd clywid cyflwyniad o'r 'Graig ar y Traeth' gan y ddau artist.

Daeth cynulleidfa deilwng iawn ynghyd i fwynhau y noson.

Ar ddydd Sadwrn y 10 fed o Hydref ar iard Ysgol Pontgarreg cyflwynwyd Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood ynghyd â disgyblion yr ysgol a fu'n canu a dawnsio gweithiau adnabyddus T. Llew Jones - a hynny o flaen ei gartref - Dôl-nant.

Yna trefnwyd taith gerdded o'r ysgol i Wersyll yr Urdd yng Nghefncwrt gan Jon Meirion.

Cyfeiriodd at dreftadaeth forwrol y broydd a chartrefi rhai morwyr arbennig, ffynnon y pentref, Brynllin, Trecregyn East, Maesycregin (cartref yr Athro Melville Richards) pan oedd yn byw yn y fro a Chanolfan y Urdd.

Yn Ogof T. Llew Jones yng Nghanolfan Treftadaeth yr Urdd cyflwynid hanes Sion Cwilt gan Euros Lewis trwy ddawn y cyfarwydd a hunan gyfeiliant ar lif y saer.

Diddanwyd y dorf ymhellach trwy weld T. Llew ei hun -ar sgrin fideo fawr yn adrodd un o straeon celwydd golau un o gymeriadau'r fro - John Jones, Glangraig. Profiad arbeunig iawn!

Dychwelwyd i Neuadd Goffa Pontgarreg ac roedd y lle yn llawn i dderbyn te croeso wedi ei weinyddu gan aelodau o Gangen Merched y Wawr Bro Cranogwen.

Yna darllenwyd enghreifftiau o ysgrifennu creadigol disgyblion ysgolion uwchradd Penweddig, Penglais, Aberaeron, Dyffryn Teifi, Aberteifi a Thregaron. Yn gynharach yn yr wythnos bu'r bobol ieuanc yn mynychu gweithdai ym Mhentre Bach, Blaenpennal yng nghwmni Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones, Angharad Tomos, Eirug Salisbury a Caryl Lewis.

Cyflwynodd John Lewis siec anrhydeddus iawn oddi ar y llwyfan i Gronfa T. Llew Jones ar ran Gwasg Gomer.

Os hoffech gyfrannu i'r gronfa mae cynllun aelodaeth teulu am £15 neu aelodaeth unigolion (£15) ar gael. Cysylltwch a Swyddfa y Ganolfan Addysg ar gampws Theatr Felinfach.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý