Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Yr arddangosfa ym Meulah Beulah 'slawer dydd
Rhagfyr 2009
Hanes arddangosfa o hen ffotograffau o bobl a digwyddiadau pentref Beulah dros er 1875.

Daeth nifer fawr o bobl i Festri Beulah ar benwythnos ym mis Tachwedd i weld arddangosfa o hen ffotograffau o bobl a digwyddiadau pentref Beulah dros y cyfnod o tua 1875 tan 1975.

Roedd dros 500 o ffotograffau yn yr arddangosfa wedi eu casglu a'u gosod ar baneli arddangos gan Gerwyn Morgan, Muriau Gwyn.

Fe agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan y gweinidog Y Parchedig Dorian Samson nos Iau, Tachwedd 5ed a bu ar agor wedyn am bedwar diwrnod tan ddydd Llun Tachwedd 9ed.

Yn ei araith talodd Mr Samson deyrnged i Mr Morgan am ei waith yn casglu'r lluniau ac am drefnu'r arddangosfa: 'Mae'n bwysig cadw digwyddiadau'r gorffennol yn fyw,' meddai, `ac mae'n ddyletswydd arnom i gyd i gofo y rhai fuodd yma o'n blaen oherwydd iddynt hwy y mae'r diolch am y pentref a'r gymuned bresennol sydd gennym ym Meulah.'

Roedd Mr Morgan wedi dosbarthu'r ffotograffau i bum adran: Bywyd a Gwaith; Pobl a Theuloedd; Yr Ysgol a'r Ysgol Feithrin; Y Capel a'r Tonic Solffa; a Bwrlwm Bro Beulah.

Roedd hefyd wedi paratoi braslun o hanes y pentref, yr ysgol a'r capel ynghyd a lluniau a hanes plasdai'r ardal.

Ynghyd a'r lluniau roedd arddangosfa Each o lien ddogfennau yn ymwneud a'r Capel, `Reading Room' Beulah a'r Ysgol Gynradd.

'Cefais dipyn o hwyl yn casglu'r lluniau ac erbyn hyn rwy'n gwybod pwy sy'n perthyn i hwn a'r hall yn y pentref.

Ond y pleser mwyaf oedd gweld pobl yn dod yn ôl ddwywaith neu deirgwaith i weld y ffotograffau ac roedd gweld rhywun yno am awr neu ddwy yn gyffredin iawn,' medda Mr Morgan.

Dywedodd Mr Morgan mai ail ran y prosiect fyddai rhoi'r lluniau ar DVD ac wedyn cynnwys llawer ohonynt mewn llyfryn ar hanes y pentref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý