Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Aelodau cyntaf a fu'n cynnal gwasanaethau ar fferm cefngwyddel Maenygroes
Rhagfyr 2003
Wythnos dathlu 175 mlynedd ers sefydlu'r achos.

Maen-y-groes, man y grasau - hygar dwyn
Cysegr Duw a'i seintiau
Ar ôl oes hir o lesáu
Noswyliant ger ei seiliau.

J. Lloyd Jones

Dechreuwyd y dathlu trwy gynnal Gymanfa Draddodiadol a Modern. Breian Jones oedd wrth yr organ a Delyth Wyn Jones yn arwain. Gwnaeth y ddau eu gwaith yn egniol dros ben ac o ganlyniad cafwyd cymanfa i'w chofio.

Cafwyd eitem gan blant yr Ysgol Sul gyda Carys Williams yn cyfeilio. Hefyd eitem gan barti deulais y bobl ifanc gyda Gillian Hearn yn cyfeilio. Lea Owen Jones oedd yn croesawu. Derbyniwyd llythyr oddi wrth Miss Anwen Lloyd, llywydd y noson, yn ymddiheuro am ei habsenoldeb.

Brynhawn Mercher croesawodd Mrs Kathryn Thomas, llywydd y Chwiorydd, Mr Lyndon Lloyd i'r festri i sôn am Annibynwyr Sir Aberteifi. Daeth cynulleidfa dda i wrando arno. Mrs Gwenlyn Jones ac Esta Davies oedd yng ngofal y te.

Nos Iau daeth Mrs Nan Lewis, Peniel i'r Gymdeithas Ddiwylliadol. Roedd y cyfarfod arbennig yma yn rhan o ddathliadau 175 o flynyddoedd er sefydlu'r achos ym Maenygroes. Roedd y festri yn llawn a phawb wedi mwynhau wrth i Mrs Lewis sôn mewn manylder yn ei ffordd ddihafal arferol am ddigwyddiadau'r Diwygiad 1904. Ar ddiwedd y noson diolchwyd i Mrs Lewis gan y Parch. Nennog Thomas ac yna cafwyd lluniaeth ysgafn cyn i bawb ymadael.

Nos Wener oedd noson yr helfa drysor a drefnwyd gan Gareth Jones, Mumur y Coed. Aeth 14 o geir ar yr helfa. Bu yna gystadlu brwd cyn dod yn ôl i Dafarn Penrhiwgaled i gael gwybod pwy oedd wedi casglu mwyaf o drysorau a chael pryd blasus o fwyd. Yr enillwyr oedd Ian a Gwendoline, Tir Gwyn. Diolch i Gareth a'r teulu am y paratoi trwyadl a roddodd fwynhad i bawb a gymerodd ran.

Dydd Sul, a dyma gyrraedd y pinacl gyda pherfformiad y pasiant.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý