Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Lloyd Bettinson yn neidio ceffylau Neidio Ceffylau yn y Gemau Olympaidd?
Rhagfyr 2004
Falle yn y dyfodol mi gawn ni pencampwr...

Tybed a fuoch chi fel fi, yn ôl yn yr haf, yn gwylio'r Gemau Olympaidd ar y teledu ac yn meddwl byddai'n braf gweld rhywun lleol yn cymryd rhan, dim ots ar ba gamp, rhywun o'r filltir sgwar yma. Wel, falle yn y dyfodol mi gawn ni ...

Bachgen pedair ar ddeg oed yw Lloyd Bettinson, Glascoed Bach, Rhydlewis, sydd â'i fryd ar gystadlu dros ei wlad a'i uchelgais yw cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd. Pa gamp? Neidio ceffylau yw ei fryd, a hynny ers iddo fod yn fachgen bach chwech oed pan ddechreuodd Lloyd ddysgu marchogaeth. Mi ddechreuodd gystadlu pan oedd yn wyth oed, mewn cystadlaethau lleol ond erbyn hyn mae yn cystadlu ar draws pob rhan o Brydain, ac yn ddiweddar bu yn yr Alban yn cystadlu.

Mae diwrnod Lloyd yn dechrau tua hanner awr wedi chwech, sydd yn gynnar iawn i lawer o blant ond mae Lloyd yn gorfod bwydo a glanhau'r ceffylau cyn mynd i'r ysgol. Mae Lloyd yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Teifi er bod ei fam a'i dad yn ddi-Gymraeg; mae Lloyd yn Gymro glân. Ar ôl y gwaith ysgol mae'r gwaith ymarfer yn dechrau, ymarfer y ddau geffyl bob dydd, ar y iard pwrpasol sydd wedi ei darparu yn arbennig gan dywod. Yna brwsio'r ceffylau, glanhau'r offer ac ati.

Rhan amlaf mae Lloyd yn cystadlu gyda dau geffyl, un 14.2 dyrnfedd o uchder a brynwyd yn yr Iwerddon a'r llall sydd yn 16 dyrnfedd; ar gefn hwn mae Lloyd yn cystadlu yn erbyn y 'seniors'. Mae e eisoes wedi bod yn rhan o dîm ieuenctid Cymru, ac fe enillodd fedal efydd. Hefyd mae wedi cystadlu yn sioe fawr Hickstead ond ei uchelgais fawr yw'r Gemau Olympaidd yn 2012 ac hefyd i gystadlu yn yr Horse of the Year Show' yn Llundain.

Mae Lloyd yn lwcus o'r gefnogaeth mae'n cael gan ei fam a'i dad ac maent yn rhoi llawer o ymdrech i mewn i gludo'r ceffylau dros bob rhan o'r wlad i gystadlu ac hynny ambell waith dair gwaith yr wythnos yn ystod yr haf.

Uchelgais Lloyd fel gyrfa? Bod yn neidiwr ceffylau proffesiynol neu o leia bridio a magu ceffylau ar gyfer y gamp. Ody, mae Lloyd â'i lygaid ar yrfa fel ei arwr Michael Whitaker, a pwy a ŵyr efallai yn y gemau 2012 fe fyddwn yn cefnogi campwr o'n filltir fach ni! Pob lwc a llwyddiant iddo.

Huw Jones, Seilach


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý