Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Mair James, cyfeilyddes ym Mryngwenith, yn derbyn rhodd gan Carys Ann Capel Bryngwenith
Gorffennaf 2003
Ar Sul Cymundeb, Mehefin y 1af, derbyniwyd rhodd o lyfr a gyflwynwyd yn y lle cyntaf i Mr David Evans, Pengelly fel arwydd o werthfawrogiad yr aelodau o'i waith fel Trysorydd 1929-1947.

Yn y llyfr mae llofnod holl aelodau'r eglwys ym 1947. Dymuniad aelod o'i deulu, sef Mr Dan Davies, oedd bod y llyfr yn cael ei gadw yn ddiogel yn y capel a'i werthfawrogi. Daeth y Parchedig T. J. Davies, Gwaelod y Garth gynt a'r llyfr yn ôl ar ran Mr Dan Davies.

Derbyniwyd rhoddion gan unigolion eraill, sef Miss Dilwen Roes a'i theulu, sef y copi gwreiddiol o lun pensil o'r capel a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Gadeiriol Bryngwenith ym 1952 gan Mr John (Jack) Roes, Blaenwinllan; a derbyniwyd rhodd gan y Dr Roy a Mrs Petra Davies, sef copi wedi ei fframio o anerchiad i gyflwyno'r Dr Dan Davies i eglwysi Hawen a Bryngwenith yn nechrau'r ganrif ddiwethaf.

Cyflwynwyd rhoddion i'r aelodau sydd yn cyflawni gwaith canmoladwy dros yr eglwys ers blynyddoedd lawer. Cyflwynodd y gweinidog, y Parchedig Carys Ann lungopi o lun o'r capel a geiriau pwrpasol a pherthnasol yn y ffrâm gan Mr Jon Meirion Jones. Yn dilyn y cyfarfod derbyniwyd croeso mawr yn y festri gan wragedd caredig Bryngwenith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý