Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Teifi a Jenny Davies, Nigel Davies (HSBC Amaeth) ac Elin Rhys (Teledu Telesgôp) Teulu 2003 - 'Ysbryd y Diwydiant'
Tachwedd 2003
Gwobrwywyd teulu fferm lleol yn ystod yr wythnos Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru am eu hymdrechion i ymateb yn bositif i'r argyfwng economaidd diweddar yn y diwydiant amaeth.

Yng nghystadleuaeth genedlaethol Teulu 2003 - 'Ysbryd y Diwydiant', cystadleuaeth a drefnwyd ar y cyd rhwng Menter a Busnes, y rhaglen Ffermio (cynhyrchiad Teledu Telesgop i S4C), Cyswllt Ffermio (WDA) a HSBC Amaeth, roedd y beirniaid yn chwilio am deuluoedd fferm oedd wedi canfod ffyrdd o aros yng nghefn gwlad. Roedd hyn yn golygu newid eu system ffermio, arallgyfeirio neu gymryd gwaith rhan amser ychwanegol er mwyn amlhau ffynhonnell incwm y teulu, a chafodd y beirniaid eu plesio'n fawr gan amrywiaeth a safon yr holl geisiadau.

Daeth Teulu Teifi a Jenny Davies, Siop Fferm Llwynhelyg, Sarnau yn ail yn y gystadleuaeth. Mae'r siop fferm wedi datblygu ar fferm Llwynhelyg ers 1988 gan dyfu o flwyddyn i flwyddyn o ddarparu llysiau o ddrws i ddrws i gynnwys ystod eang o gynnyrch Cymreig. Mae'r siop yn fan gwerthu i nifer o gynhyrchwyr lleol a theimla'r teulu eu hod yn cyflawni rôl bwysig iawn o hybu ymwybyddiaeth o ansawdd uchel bwydydd Cymreig i gwsmeriaid lleol ac i ymwelwyr â Chymru.

Mae teulu Llwynhelyg i'w llongyfarch yn fawr a chyflwynwyd sieciau am £2,000 iddynt, cyngor arbenigol a phlac llechen i gofnodi'r achlysur.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý