Gan mai arweinyddes y côr, Margaret Daniel, oedd wedi gwneud y trefniadau ar ein cyfer, gallem ddisgwyl yn hyderus y byddai'r cyfan wedi'i baratoi'n drefnus a thrylwyr ymlaen llaw.
Serch hynny, roedd hi wedi cadw un atyniad arbennig yn gyfrinach llwyr.
Pan gyrhaeddwyd gwesty moethus pedair seren ar y nos Wener, a hwnnw reit yng nghanol y ddinas, roeddem yn siŵr o le cysurus, ta beth.
Fore trannoeth buom yn crwydro hyd strydoedd Caer a'n swyno gan brydferthwch y ddinas a'i hadeiladau gosgeiddig. Tua hanner dydd cawsom ein cario i westy arall, ac ar ôl torri syched, fe'n harweiniwyd allan drwy'r drws cefn. Ychydig lathenni o'n blaen roedd camlas a bad 70 troedfedd o hyd yn aros amdanom.
Croesawyd ni ar ei bwrdd gan y capten a'n gwahodd i eistedd wrth fyrddau wedi'u harlwyo'n barod ar gyfer cinio. Ymhen dim roedd y bwyd yn cael ei gario o gegin y gwesty i'r bad, y L'eau T Cuisine, a ninnau yn awchu am y pedwar cwrs a oedd o'n blaen.
Doedd hi ddim yn anodd dychmygu ein bod ym Mharis neu Amsterdam wrth inni deithio'n hamddenol braf ar brynhawn hyfryd o wanwyn ar gamlas y Shropshire Union. Wnaethon ni ddim teithio ei 66 milltir o hyd, ond cawsom flas ar hyfrydwch trafnidiaeth a oedd mewn bri mewn oes a fu.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |