Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Antur yn y Cymylau
Ebrill 2005
Carol Thomas-Harries yn sôn am helynt o wneud naid parasiwt tandem i godi arian at elusen pwysig yng Nghymru.

Roedd y syniad o wneud Naid Parasiwt Tandem wedi apelio i mi ers amser mawr a phenderfynais y llynedd mai dyna oedd yr amser iawn i wireddu fy mreuddwyd - cyn fy mod yn rhy hen i'w wneud heb gael prawf meddygol!

Y cam nesaf oedd perswadio rhywun digon mentrus, neu ddwl, i ymuno gyda mi i gwblhau'r antur. Cefais sawl un yn ateb 'NA!' Ond, ar ôl trafod brwd (a pheth bygythiadau corfforol!) penderfynwyd mai fi, Carol Thomas-Harries, a Ffion Jones, yn cynrychioli D. D. Thomas, Aelwyd Garage, Blaenannerch, ynghyd â John Dalton, o Daltons ATV's, Talsarn, fyddai'r tri gwallgof i fentro ein bywydau i'r wybren fry uwchben.

Y cam nesaf oedd dewis elusen a fyddai'n medru elwa o'r nawdd a fyddwn yn ei gasglu. Penderfynwyd ar Ymchwil Cancr Cymru, sydd wedi ei leoli yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd. Mae'r mudiad yma yn ariannu'r ymchwil i driniaethau a meddyginiaethau effeithiol ar gyfer dioddefwyr cancr yng Nghymru.

Roedd yn bwysig i'r tri ohonom y byddai'r arian yn gwneud gwahaniaeth yn ein gwlad fach ni, ac nid ymhellach dros glawdd Offa. Mae'n anodd credu - ond mae'n ffaith - bod cancr bellach yn effeithio ar un o bob tri pherson.

Trefnwyd y naid parasiwt drwy gwmni Skyline' nôl ym mis Mehefin. Wedi bwcio roedd y freuddwyd yn dechrau teimlo'n fwy real, ac roedd yn rhaid dechrau casglu nawdd o ddifri. Nid oedd neb yn saff rhag ein ffurflenni nawdd! Byddai'r ffurflenni yn mynd o amgylch ar bob achlysur posib, a chwarae teg, roedd pawb yn gefnogol iawn, boed yn unigolion, yn fusnesau, neu'n fudiadau.

  • Darllenwch mwy yn amserlen y naid...

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý