Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Gambo
Dafydd Dafis a Dyfed-Elis Gruffydd Ymroddiad Oes
Rhagfyr 2008
Hanes Dafydd Dafis, enillydd Tlws Coffa Robina 2008.

Dafydd Dafis yw enillydd Tlws Coffa Robina eleni. Cyflwynwyd y wobr iddo am ei ymroddiad oes i fyd natur a'r Gymraeg, sef dau brif faes y Tlws sy'n cael ei roi bob blwyddyn er cof am Robina Elis-Gruffydd a'i hymroddiad hithau iddynt.

Dafydd Dafis, sydd yn ei nawfed degawd erbyn hyn, oedd sylfaenydd Cymdeithas Edward Llwyd, y gymdeithas i naturiaethwyr a cherddwyr sy'n dathlu ei 30ain pen¬blwydd eleni. Ei weledigaeth, a wireddwyd ganddo gydag eraill, oedd dod â'r Gymraeg i graidd sefydliadau byd natur, ac erbyn hyn ymddangosodd toreth o lyfrau, llyfrynnau ac erthyglau sy'n trafod enwau a thermau Cymraeg ar bob agwedd o'r maes, yn ogystal â materion gwyddonol mwy cyffredinol. Fel yr esboniodd Rhian Owen, Sarnau, ar ran Pwyllgor Tlws Coffa Robina, mae'r gwr brwdfrydig a chymwynasgar hwn yn llwyr haeddu'r Tlws hardd a gyflwynwyd iddo gan Dyfed Elis-Gruffydd, Llechryd.

Ond gwelwyd teilyngdod hefyd yn enwebiad arall am y Tlws, sef Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a'i Chanolfan Natur yng Nghilgerran a gafodd ei chymeradwyo yn uchel am ei hymdrech ddiwyd a llwyddiannus i'w Chymreigio ei hun gan hybu'r iaith ymysg y cyhoedd, y staff a'r gwirfoddolwyr.

Felly bu'r Tlws unwaith eto eleni yn fodd i ddathlu llwyddiannau yn y maes ac mae edrych ymlaen at gael enwebiadau am y flwyddyn nesaf. Mae'n agored i unigolion a grwpiau o bob math sy'n gweithredu yn siroedd Dyfed i hybu'r iaith Gymraeg, dysgu Cymraeg, y diwylliant Cymraeg, neu les yr amgylchedd, byd natur a gwarchodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Menter laith Sir Benfro, 01239 831129.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý